Beth sy’n digwydd yng Nghanolfan y Glowyr Caerffili?

Mae pob math o bethau yn digwydd yma, cymaint nes ei bod weithiau yn anodd darparu stafell ar gyfer pawb sy’n gwneud cais. Mae gennym ddosbarthiadau yoga, tai chi ac aikido, dosbarthiadau dawns o bob math a chyfleoedd i wella sgiliau rhifedd a thechnoleg gwybodaeth. Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio iPad trwy gyfrwng Cymraeg. Bydd Coleg Gwent yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg ar sawl lefel a gallwch ddysgu Sbaeneg a Ffrangeg hefyd. Mae gennym glwb ffilm a phob math o weithgareddau ar gyfer ein grwp henoed a benderfynodd eu galw eu hunain yn Aeron Aeddfed. Ar ben arall yr ystod oedran mae gennym lysgenhadon o ysgolion cynradd yr ardal a fforwm ieuenctid ychydig yn hŷn sy’n cyfrannu syniadau gwerthfawr ar gyfer ein datblygiad. Does ond gobeithio y byddai’r hen lowyr yn gwerthfawrogi’r bwrlwm cymunedol yma!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s