Datblygiadau cyffrous

Dyma’r hen ysbyty y bu 10,000 o lowyr Cwm Rhymni yn cynilo’n ddyfal o’u cyflog i’w agor yn y blynyddoedd yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu’n ysbyty cyffredinol i’r ardal am ryw 90 mlynedd nes ei gau a’i symud i adeilad newydd yn 2011. Arbedwyd adeilad gwreiddiol Ysbyty’r Glowyr a’i droi yn ganolfan gymunedol, elusen a reolir gan nifer o wirfoddolwyr brwd. Agorodd y ganolfan hon ym mis Hydref 2015. Nid oedd arian i adfer mwy na llawr gwaelod yr adeilad ond datblygwyd ystod eang o weithgareddau a daeth y ganolfan yn gyrchfan i’r gymuned unwaith eto.

Erbyn hyn, wedi derbyn grantiau amrywiol o nifer o gyfeiriadau, rydym mewn sefyllfa i adfer gweddill yr adeilad hyfryd hwn ac ehangu ein gweithgareddau yn sylweddol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s